This time it is joined by famed Amazon union organiser Chris Smalls and the new vessel, the Handala, will carry baby formula for Gaza’s starving children just weeks after Israeli forces abducted the Madleen’s crew in international waters, reports ANA VRACAR
Bu farw Gwyn Griffiths ym Mhontypridd ym mis Ebrill eleni, yn 77 oed. Roedd i’w urddo gan Orsedd y Beirdd gyda’i Gwisg Gwyrdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ‘am ei gyfraniad unigryw fel hanesydd, newyddiadurwr ac fel un o’r dolenni pwysicaf yn y berthynas rhwng Cymru a Llydaw. Roedd hefyd yn adnabyddus fel awdur, golygydd, cyd-olygydd neu gyfieithydd o leiaf 25 o gyfrolau’.
Ysgrifennodd Gwyn adolygiadau radio a llyfrau i’r Morning Star a’i gyfrolau ei hun am Henry Richard (yr ‘Apostol Heddwch’ o’i fro ei hun, sef Tregaron), llên Cymru a Llydaw, hanes cyfansoddi ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ a theithiau’r dynion ‘Sioni Winwns’ yn ne Cymru.
Roedd hefyd yn aelod brwd a gweithgar o’r Blaid Gomiwnyddol ac yn un o’r cylch i adnewyddu hen drosiad WJ Rees ym 1948 o’r Maniffesto Comiwnyddol gan Marx ac Engels o’r Almaeneg i’r Gymraeg.
Dyma’r anerchiad a draddodwyd yn angladd Gwyn Griffiths gan Gareth Miles:
Mae llu o eiriau wedi llenwi ‘mhen i er pan glywais i fod Gwyn wedi’n gadael ni. Geiriau sy’n crynhoi fy nheimladau a ‘nghof amdano. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn digwydd dechrau efo’r llythyren C: Cyfaill, ers hanner canrif, o’r dyddiau pan oedd Gwyn yn newyddiadurwr efo’r Cymro, ac yn byw ger Croesoswallt; Gwen a minnau yn athrawon yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Gina yn stiwdant yng Ngholeg Cartrefle ac wedyn yn athrawes mewn ysgolion cynradd yn ardal Wrecsam. Estynnwyd ac atgyfnerthwyd ein cyfeillgarwch pan symudon ni i’r ardal hon lle yr oedd Gwyn a Gwen wedi ymgartrefu eisoes.
Cymrawd, Comiwnydd, cyd-ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol a Heddwch ac yn erbyn Apartheid.
Cynhyrchiol — awdur cynifer o lyfrau, ysgrifau ac erthyglau sy’n cyfuno adnabyddiaeth a gweledigaeth o’n hanes fel cenedl a’n cysylltiadau efo’n cefndryd Celtaidd yn Llydaw yn ogystal.
Cwmnïaeth, cyfeddach, cwrw — roedd Gwyn yn gwmnïwr heb ei ail fel y gall cynifer ohonom ni dystio. Yn ddiweddar byddai Gwyn a fi yn diwallu ein syched efo te a choffi yn y ‘Miwni’ ond roedd y seiadau yr un mor ddiddan. Mi alwais yn y Miwni am banad echdoe a theimlo’n unig iawn.
Cariad Gwyn at ei deulu a chariad ei deulu at Gwyn. Dyna sylfaen ei bersonoliaeth radlon, ei gymdeithasu hwyliog, ei ddyneiddiaeth a’i gyfraniad gwerthfawr i’n llên a’n diwylliant.
Mi orffennaf hyn o deyrnged annigonol efo geiriau Prosser Rhys; Cardi arall a bardd yr oedd gan Gwyn feddwl mawr ohono; geiriau sy’n fynegiant o argyhoeddiadau dyfnaf Gwyn Griffiths:
Ond — glynu’n glos yw ‘nhynged
Wrth Gymru, fel y mae, A dewis er ei blynged,
Arddel ei gwarth a’i gwae.
Bydd Cymru byth, waeth beth fo’i rhawd.
Ym mêr fy esgyrn i, a’m cnawd.



